🔗 ⚙️

Melys from Diwedd Haf by Static Inc

Tracklist
1.Melys3:43
Lyrics

Bysai’n anodd nawr i gredu eto,
I ailddarganfod rhyw fodd o ddeffro
o’r syrthni yma, y cwsg aniddig,
Yr aneglurdeb yn ei fyd ynysig
Ond ni all unrhywun fyw fel hwn am byth,
Mynegi dim ond hanner o be’ deimlith
a’n anghofio’r gweddill. Enaid amharod
yn celu’r bwrlwm na allent adnabod

Rhyw ymdrech i’w gwarchod rhagddo?
Neu ofni d’afael yn llacio?
Oes ’na burdeb heno
yn dy neilltuoldeb? Ac oes tawelwch hebddynt?

Ond, os na,
Os cei di gyfle arall i ganfod beth sy’n bod,
Y loes a’r syrffed ma, gallet geisio eu datglo
Ar ryw fore diwall, bydd amser gen ti ’to
i adfer

Yr amser segur, y cilagored,
Pob saib yn ddiffyg a phob bwlch yn golled,
Yr anghyflawnder a’r anfodlonedd,
Ar drywydd rhywbeth, rhyw uwch-wirionedd,
Wrth deimlo’r diwedd, y diawenydd,
Crafangu’n arw am unrhywbeth newydd
Rhywbeth clir a all ei gadw’n symud,
Neu rywbeth gwir i’w warchod rhag y trymfryd

Ond, on’d yw e’n bwysig i gymryd eiliad,
I werthfawrogi’r teimlad?
Does dim dyfodol i ddadwreiddiad,
Ond teimla dy lonyddwch mor amhosib

Ond, wastad,
Bydd rhywbeth i’w ddarganfod
Meiriola di dy naws,
A thria i gydnabod gall hwn gyd fod yn haws
Ymysg dy synfyfyrdod daw bywyd ar dy draws,
A mas â nhw

Diofn — rhyddhad
Teirblwydd o wagu, tywallt a phoeni dros bob awr
Fe gei di gyfle arall wrth ddodi’r llwyth i lawr
Wyt ti’n gallu deall beth sy’n annwyl nawr?
Ar ôl popeth, fe ddaw e nôl

Credits
from Diwedd Haf, released December 5, 2025
Music & Lyrics by Siôn Walters
LicenseAll rights reserved.
Tags
Recommendations